Mae Adwaith wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ar label Recordiau Libertino ddydd Gwener diwethaf, 22 Tachwedd.
‘Orange Sofa’ a ‘Byd Ffug’ ydy enwau’r ddau drac newydd ac roedd cyfle cyntaf i’w clywed ar wefan gerddoriaeth Clash Music wythnos diwethaf.
Roedd Adwaith yn perfformio allan yng Ngŵyl M pour Montreal yng Nghanada dros y penwythnos.
Bydd y cyfle nesaf i weld y band yn gigio yng Nghymru ar 13 Rhagfyr, a hynny yn Tap House 72 yng Nghaerfyrddin.