Mae’r canwr-gyfansoddwr uchel ei barch, Gai Toms, yn paratoi i ryddhau ei gynnyrch diweddaraf sydd wedi’i seilio ar fywyd un o gymeriadau mwyaf, ym mhob ffordd, Cymru.
Dros y misoedd diwethaf mae Gai wedi bod yn ymgolli yn hanes bywyd un o wir eiconau cenedlaethol Cymru – y reslwr proffesiynol Orig Williams, oedd hefyd yn gyfarwydd fel El Bandito.
Mae Gai yn hoff o arbrofi gyda recordiau cysyniadol – roedd Rhwng y Llygru a’r Glasu a ryddhawyd yn 2008 yn arbrawf amgylcheddol uchelgeisiol, a’i record ddwbl, Bethel (2012) yn deyrnged i hen gapel roedd Gai wedi troi’n stiwdio.
Mae ei albwm cysyniadol diweddaraf yn ddathliad o fywyd y cawr o Ysbyty Ifan ac yn ei weld yn defnyddio cyfeiliant grŵp Y Banditos!
Bydd tamaid i aros pryd nes yr albwm yn ymddangos ddydd Gwener yma, 5 Gorffennaf, ar ffurf y sengl ‘Y Cylch Sgwâr’, cyn i’r albwm llawn dan yr enw ORIG! gael ei ryddhau’n swyddogol ar 19 Gorffennaf.
Recordiau Sain sy’n gyfrifol am ryddhau’r albwm a bydd allan ar CD ac yn ddigidol ar y prif lwyfannau ffrydio a lawr lwytho.
Ag yntau wedi canolbwyntio ar recordio yn ei stiwdio ei hun, a rhyddhau ar ei label ei hun, Sbensh, dros y blynyddoedd diwethaf mae’n ddifyr gweld Gai yn dychwelyd i un o stiwdio’s enwocaf Cymru gyda’i brosiect diweddaraf. Aled Wyn Hughes sydd wedi peiriannu a chyd-gynhyrchu’r record gyda Gai, ac efallai bod hynny’n ffactor yn ei benderfyniad.
Mae’r sengl newydd yn agor gyda sŵn y dorf o gwmpas y cylch sgwâr yn aros yn eiddgar am El Bandito ac yng ngeiriau Gai “cawn gyflwyniad o fywyd y cymeriad El Bandito ac agwedd Orig ar y byd.”
Bydd fideo newydd yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl ar 5 Gorffennaf gan Ochr 1 – yr un diwrnod bydd y sengl ar gael i ffrydio drwy’r byd a bydd Gai Toms a’r Banditos yn dathlu’r achlysur gyda pherfformiad yng Ngŵyl Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog gyda’r nos.