Tocynnau gigs ’dolig Al Lewis wedi mynd

Mae’r tocynnau ar gyfer sioeau Nadolig blynyddol poblogaidd Al Lewis yng Nghaerdydd wedi eu gwerthu i gyd.

Mae Al – neu Bing Crosby Cymru fel rydan ni’n dechrau ei adnabod – yn cynnal ei sioeau Nadolig yn Eglwys St John yn Nhreganna ers sawl blwyddyn bellach.

Byddan nhw’n cael eu cynnal ar 13 a 14 Rhagfyr eleni gyda Lleuwen a Chôrdydd yn perfformio hefyd.

Mae’r tocynnau ar gyfer y ddwy noson wedi eu gwerthu’n barod yn ôl y canwr poblogaidd.

Bydd Al yn cynnal sioe ychwanegol eleni yn y Gogledd, a hynny yn Eglwys Llanengan ger Abersoch ar 30 Tachwedd.