Bydd Alffa yn rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig / Freedom from the Poisonous Shadows ddiwedd mis Tachwedd.
Go brin fod angen cyflwyniad arnynt bellach, ond Alffa ydy’r ddeuawd ifanc o Lanrug, Dion Wyn Jones a Sion Land.
Ffurfiodd y grŵp rai blynyddoedd yn ôl, gan gipio teitl Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru yn 2017, ond y flwyddyn ddiwethaf ydy stori llwyddiant go iawn y grŵp.
Yn Rhagfyr 2018 creodd y ddeuawd hanes wrth i’w sengl ‘Gwenwyn’ gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify – y gân Gymraeg gyntaf i wneud hynny.
Wythnos diwethaf daeth y newyddion fod y gân bellach wedi croesi tair miliwm ffrwd, ac mae eu sengl Gymraeg ddiweddaraf, ‘Pla’, hefyd wedi croesi’r miliwn.
Canlyniad llwyddiant
Wrth drafod cyrraedd miliwn ffrwd, dywedodd rheolwr label y band Recordiau Côsh, sef Yws Gwynedd, bod y gamp yn golygu fod modd i Alffa recordio a rhyddhau albwm cyfan gyda’r incwm.
Bydd yr albwm cyntaf hwnnw’n gweld golau dydd ar 29 Tachwedd, sydd bron union flwyddyn i’r dyddiad y croesodd ‘Gwenwyn’ y ffigwr o filiwn ffrwd.
Rhyddhawyd sengl Saesneg gyntaf y grŵp, ‘Full Moon Vulture’ ym mis Gorffennaf eleni, a bydd yr albwm cyntaf yn un dwy-ieithog fel mae’r enw’n awgrymu.
Yn ôl y label mae Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig / Freedom from the Poisonous Shadows yn ‘baradwys o riffs cyfarwydd, roc trwm, mor syml a mor syfrdanol’.
Penllanw
Er bod y ddeuawd yn ifanc mewn oed, mae’r pynciau sy’n cael eu trafod ar y casgliad newydd yn rai aeddfed sy’n cynnwys cariad, tynged, a hyd yn oed y ffaith mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth i ddynion dan 45 oed.
Mae’n debyg bod Dion a Siôn wedi bod yn awyddus iawn i ryddhau eu halbwm, prin yn gallu aros nes bod y torfeydd sy’n dod i’w gweld yn eu sioeau byw niferus yn clywed y traciau newydd.
Cafodd y band flwyddyn brysur o gigio, gan gynnwys sioeau cofiadwy gig anhygoel yn The Great Escape, noson hyfryd gyda’u ffan enfawr Michael Sheen yng Nghwpan y Byd Digartref, gan orffen yr haf gyda gig bythgofiadwy yng Ngŵyl Sŵn Caerdydd.
Rhyddhau’r albwm newydd fydd penllanw blwyddyn lwyddiannus arall i’r ddeuawd heb os.
Mae modd rhag archebu’r albwm ar CD a feinyl ar wefan Alffa nawr.