Mae’r grŵp o ardal Caernarfon, Achlysurol, wedi ryddhau eu sengl diweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 15 Mai.
‘(Dafydd) Ale Dydd Sul’ ydy enw’r trac newydd gan y triawd ac mae wedi’i ryddhau gan label JigCal.
Dyma drydedd sengl y triawd sef Aled Emyr ar y gitâr fas a llais, Ifan Williams ar y gitâr ac Ifan Emyr ar y drymiau.
Mae’n ddilyniant i ‘Dros y Môr’ a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni, a ‘Sinema’ a ryddhawyd ganddynt ym mis Tachwedd.
Peints pnawn Sul
Fel mae enw’r trac yn awgrymu, mae’r gân newydd wedi’i dylanwadu arni gan brofiadau’r aelodau ar ddyddiau Sul.
“Ar ôl cyfansoddi’r gerddoriaeth, y geiriau cyntaf ddoth i fy mhen oedd Dafydd Ale Dydd Sul” meddai Aled am y sengl newydd.
“Dim syniad pwy nath feddwl am y term yma, ond dyma ’ma rhai ohona ni’n galw mynd am gwpwl o beints ar brynhawn dydd Sul. Mae ’na eiriau sy’n awgrymu ein cysylltiad ni â’r capal ar ddydd Sul hefyd ond dim cân drom di hon, jest gân sy’n cyfleu awyrgylch hamddenol y diwrnod”.
Recordiwyd y trac yng Nghaerdydd gyda Mei Gwynedd yn cynhyrchu. Roedd y grŵp yn bwriadu dychwelyd i recordio mwy o draciau ym mis Ebrill, ond rhoddodd argyfwng y Coronavirus stop i hynny’n anffodus.
Dyma ‘(Dafydd) Ale Dydd Sul’: