Albwm PRIØN allan ar 7 Chwefror

Bydd y ddeuawd newydd PRIØN yn rhyddhau eu halbwm stiwdio lawn gyntaf ar 7 Chwefror 2020.

Ond cyn hynny, fel tamaid i aros pryd, maent wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 24 Ionawr.

‘Poced Cot’ ydy enw trydedd sengl prosiect diweddaraf Arwel ‘Gildas’ Lloyd, ac mae’n dilyn y ddwy sengl a ryddhawyd yn ystod hydref 2020 sef ‘Bur Hoff Bau’ a ‘Bwthyn’.

Emosiwn

Mae’r sengl newydd yn llawn emosiwn ac yn dangos sain hyfryd y ddeuawd o Ddyffryn Clwyd ar ei orau.

Mae PRIØN yn gweld Arwel yn cyd-weithio â’r gantores Celyn Llwyd Catwright.

Mae Arwel Lloyd, sy’n wreiddiol o Lansannan a bellach yn byw yn Yr Hendy, yn adnabyddus fel y cyfansoddwr a’r canwr tu ôl gerddoriaeth Gildas, ond mae hefyd yn adnabyddus fel gitarydd amryddawn a chyfansoddwr gyda’r Al Lewis Band ac Elin Fflur.

Mae Celyn Llwyd Cartwright yn wreiddiol o Ddinbych, a bellach yn astudio gradd meistr yng Nghaerdydd, mae hithau’n wyneb a llais adnabyddus i’r genedl. Mae wedi perfformio ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt gan gynnwys rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2018 a chymryd rhan fel un o’r prif gymeriadau, ‘Wini’, yn y Sioe Gerdd arobryn Te yn y Grug, Eisteddfod Llanrwst 2019.

Albwm

Mae albwm cyntaf y ddeuawd yn rhannu enw’r sengl gyntaf a ryddhawyd ganddynt, sef ‘Bur Hoff Bau’.

Mae dau lais cynnes Arwel a Celyn yn uno, ynghyd â Matt Ingram a CJ Jones ar yr offerynnau taro, Sion Llwyd ar y bas, Gareth Thorrington ar y piano a sain torcalonnus y Mavron String Quartet dan drefniant yr amryddawn Geraint Cynan i gyflwyno casgliad bendigedig o ganeuon newydd wedi eu cyfansoddi gan y ddau.

Mei Gwynedd ac Arwel Lloyd sydd wedi cynhyrchu’r cyfan a’r cymysgu wedi ei gwblhau gan Llion Robertson.

Eurig Roberts sy’n gyfrifol am y gwaith celf gyda chyfraniadau gan Buddug a Celf Calon.

Dyma ‘Poced Cot’