Rhyddhau ‘Ffilm’ gan Dienw

Mae’r ddeuawd gyffrous o’r Gogledd, Dienw, wedi rhyddhau eu sengl newydd ar label I KA CHING ddydd Gwener diwethaf, 24 Chwefror.

‘Ffilm’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd ifanc sydd wedi ffrwydro i amlygrwydd yn ystod ail hanner 2019, ac roedd cyfle cyntaf i glywed y gân ar wefan Y Selar ddydd Llun diwethaf.

Hon fydd eu trydedd sengl hyd yma.

Cymeriadau ffilm

Recordiwyd ‘Ffilm’ dros gyfnod Calan Gaeaf 2019 yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts.

Mae geiriau’r gân yn gymysgedd o odlau yr ysgrifennodd Twm, canwr a gitarydd Dienw, dros fisoedd, sy’n seiliedig ar gymeriadau o wahanol ffilmiau – mae hynny wrth reswm yn egluro cefndir enw’r gân!

Unwaith eto, crëwyd y gwaith celf gan brif leisydd y band – Twm, ac mae’r band yn gweithio ar fideo i gyd-fynd â’r sengl a fydd yn ymddangos ar ddechrau mis Chwefror.

Mae dwy sengl flaenorol Dienw, ‘Sigaret’ a ‘Bwystfil Prydferth’, ar gael nawr ar y llwyfannau digidol arferol, a bydd cyfle i’w gweld yn perfformio’n fyw ar lwyfan Gwobrau’r Selar ar nos Wener 14 Chwefror.