Mae’r grŵp roc o Bonypridd, Chroma, wedi rhyddhau eu sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 26 Mehefin.
‘Head in Transit’ ydy enw’r sengl newydd, a dyma’r trac cyntaf i weld golau dydd o’u halbwm gyntaf sydd ar y gweill.
Oherwydd y cloi mawr, bu’n rhaid gohirio sesiynau recordio’r albwm am y tro, ond yn ffodus iawn roedd y grŵp wedi llwyddo i recordio ‘Head in Transit’ cyn i bopeth ddod i stop yn mis Mawrth.
Triawd roc pwerus o Dde Cymru ydy Chroma gyda Liam Bevan ar y gitâr, Zac Mather ar y dryms a’r enigma Katie Hall yn canu. Daeth y grŵp i’r amlwg yn 2016 gan berfformio’n rheolaidd cyn cipio teitl Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B yn Eisteddfod Y Fenni.
Mae’r grŵp yn gyfarwydd am eu sŵn roc trwm sy’n ysgwyd lleoliadau eu gigs i’w seiliau, ac mae’r sengl newydd yn un sy’n esblygiad o’r sŵn adnabyddus hwnnw.
“Ry’n ni wastad wedi bod eisiau ysgrifennu cân sy’n swnio fel anthem fyddai’n addas ar gyfer cerdded mewn i stadiwm” meddai band wrth drafod y sengl newydd.
“Wrth i’r linell gitâr eich denu i mewn, taranai’r drymiau ar draws hyn i gyd gan greu sŵn breuddwydiol sy’n gefndir perffaith i lais Katie.”
Ysgrifennodd Katie Hall y geiriau ar gyfer y sengl newydd wrth weithio mewn canolfan gyswllt yn y sector gyhoeddus, ac mae’n dwyn ar y profiad hwnnw gan drafod effeithiau gweithio mewn swydd o’r fath.
“Mae’n swydd galed iawn, lle mae rheolwyr yn monitro pob symudiad” eglura Katie.
“Ges i sawl sgwrs tor-calonnus gyda aelodau o’r cyhoedd wrth weithio yn y ganolfan cyswllt. Wrth adrodd rheolau a pholisïau nad wyt ti’n cytuno â hwy, mae’n neud i ti deimlo’n hynod o wan.
“Daw’r syniad o ‘Head in Transit’ o’r profiad o weithio mewn canolfan gyswllt, ro’n i eisiau ysgrifennu’r gân am y profiad yma oherwydd ar wahan i ambell erthygl yn y Guardian, does dim llawer o sylw i effeithiau y mae’r sector yma yn cael ar iechyd meddwl pobl.
“Ar ddechrau’r clo-mawr, fel sawl un, fe gollais fy swydd felly roedd rhaid ail-ymweld â’r canolfan gyswllt. Fel band, roedden ni’n teimlo’n gryf mai nawr oedd yr adeg cywir i ryddhau ‘Head in Transit’ gan atgoffa pobl i ddiolch i’r holl aelodau o staff sy’n gweithio ar y rheng flaen er lles y cyhoedd.”
Mae “head in Transit’ yn ddilyniant i’r sengl Gymraeg ‘Tair Ferch Doeth’ a ryddhawyd ym mis Rhagfyr.
Dyma’r ail sengl iddynt ryddhau ar label annibynnol y band, Don’t Talk Over Me Records.