Fideo Chroma ar Lwp

Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer un o draciau Chroma ar eu llwyfannau digidol. Fideo ar gyfer ‘Weithiau’ ydy hwn, sef un o’r ddwy gân a ryddhawyd gan Chroma fel sengl ddwbl ddiwedd mis Mehefin.