Mae Elis Derby wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 17 Ionawr, gan hefyd gyhoeddi dyddiad rhyddhau ei albwm cyntaf.
‘Disgwyl yr Alwad’ ydy enw sengl newydd y cerddor addawol, ac mae allan ar label Recordiau Côsh.
Hon ydy’r ail sengl i ymddangos ganddo eisoes yn 2020, ac mae hynny’n adeiladu at ryddhau ei albwm cyntaf fydd allan ar 31 Ionawr.
Rhyddhawyd ei sengl ddiwethaf, o’r enw ‘Cwcw’ ar 3 Ionawr, a dyma oedd ei sengl gyntaf ar label Côsh ar ôl bod yn rhyddhau cynnyrch blaenorol ar ei label ei hun.
Roedd y cerddor wedi sôn eisoes mai’r bwriad oedd rhyddhau albwm yn fuan iawn ar label Yws Gwynedd, a bellach rydym yn gwybod bydd yr albwm hwnnw’n dwyn yr enw ‘3’ ac allan cyn diwedd y mis.
‘Corff o waith’
Dywed y label fod ‘3’ yn gyfle i Elis gael corff o waith allan i’r cyhoedd fel eu bod yn gyfarwydd a’r set byw sydd wedi bod yn denu canmoliaethau niferus dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ers ei sefydlu, mae’r band wedi bod yn gigio’n reolaidd a bydd cyfle i’w gweld yng Ngwobrau’r Selar fis nesaf yn Aberystwyth ar nos Wener yr 14 Chwefror – ynghyd â Gwilym, Fleur De Lys, Lewys a’r grŵp ifanc addawol, Dienw.
Mae Elis wedi creu dipyn o argraff dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a daliodd y sengl ‘Cwcw’ sylw’r cyflwynydd Gideon Coe a chwaraeodd y gân ar ei sioe BBC Radio 6 Music.
Mae’r trac hwnnw’n un eithaf amrwd a syml sy’n wrthgyferbyniad i steil mwy anthemig ‘Disgwyl am yr Alwad’.
Mae addewid y byddwch yn canu hon yn eich pen ar ôl ei chlywed cwpl o weithiau – y sŵn a’r dôn yn gyfarwydd er ei bod hi’n amlwg yn hollol nodweddiadol o arddull Elis Derby.