Endaf ac Ifan i ryddhau sengl

Mae deuawd annisgwyl wedi dod ynghyd i recordio sengl newydd fydd allan ar label High Grade Grooves ddiwedd mis Mai.

Un hanner y bartneriaeth ydy’r cerddor electronig o Gaernarfon, Endaf, a’r llall ydy canwr a gitarydd y grŵp poblogaidd Gwilym, sef Ifan Pritchard.

‘Dan dy Draed’ ydy enw’r trac newydd fydd allan yn swyddogol ar 29 Mai, ac yn ôl y label mae’n plethu melodïau pop hafaidd Ifan gyda rythmau hypnotig Endaf i greu rhywbeth unigryw iawn.

Cyd-weithio

Mae’r ddau artist yn rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru ar hyn o bryd, ac mae nifer o’r artistiaid sydd ar y cynllun eleni wedi bod yn cyd-weithio mewn modd tebyg.

Mae Endaf hefyd wedi bod yn cyd-weithio gyda cherddorion Cymraeg amlwg eraill yn ddiwedd, gan gynnwys rhyddhau sengl ar y cyd gydag Ifan Dafydd ac Eadyth ym mis Chwefror.

Er hynny, mae’r bartneriaeth ddiweddaraf yma rhwng y cynhyrchydd electro a ffryntman grŵp indi-pop mwyaf poblogaidd Cymru yn fwy anarferol.

Mae’n debyg i’r ddau ddechrau trafod wrth berfformio yn stiwdio’s enwog Maida Vale gyda chynllun Gorwelion, gan benderfynu mynd ati i gydweithio ar y sengl.

Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac newydd ar Sesiwn Tŷ, rhaglen BBC Radio Cymru Lisa Gwilym, wythnos diwethaf.