Bydd label Recordiau Côsh yn cynnal cyngerdd mawreddog yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar 16 Mai eleni.
Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous y label, a’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn gyffredinol gan gynnwys y grŵp enillodd dair o Wobrau’r Selar eleni, Gwilym.
Hefyd yn perfformio mae’r ddeuawd o Lanrug, Alffa; y grŵp ifanc cyffrous, Lewys; a phrosiect y gantores jazz o Benygroes Elin Edwards, sef Thallo.
Mae’r gig yn dechrau am 19:00 ar 16 Mai, gyda chyfle i fanteisio ar docynnau ‘Bargen Gynnar’ am ddim ond £12 ar hyn o bryd (nes 1 Mai).
Mae modd archebu tocynnau ar wefan Pontio nawr.