Cyfle cyntaf i glywedd…’Niwl’ gan Dafydd Hedd a Mike Pritchard

Mae canlyniad cyntaf prosiect newydd i gerddorion ifanc sydd eisiau cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg yn gweld golau dydd.

Y sengl ‘Niwl’ ydy cynnyrch cyntaf prosiect ‘Sbardun Talent Ifanc’  sy’n cael ei redeg gan y cynhyrchydd amlwg Endaf, mewn partneriaeth gyda’r Galeri yng Nghaernarfon.

Mae pedwar cerddor ifanc yn rhan o’r prosiect, ac mae ‘Niwl’ yn drac gan Mike Pritchard, ac enw sy’n gyfarwydd iawn i’r Selar, sef Dafydd Hedd.

Heno, ddiwrnod cyn rhyddhau’r trac yn swyddogol, mae’n bleser gan Y Selar gynnig cyfle cyntaf i chi glywed y trac newydd ar-lein.

Dim ond 18 oed ydy Dafydd Hedd, er ei fod wedi rhyddhau dau albwm llawn, yn ogystal â’r EP, Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd, yn ddiweddar. Er hynny, dyma’r tro cyntaf I Dafydd gyflwyno cerddoriaeth electronig ar ôl bod yn canolbwyntio ar stwff indie, pop, pync a roc cyn hyn.

Cwta flwyddyn yn hŷn ydy Mike Pritchard, sy’n cael ei adnabod hefyd fel Mike RP. Wedi ei ddylanwadu arno gan Carl Cox a Jamie Jones mae wedi bod yn DJio ers yn 14 oed cyn symud ymlaen i gynhyrchu cerddoriaeth. Mae ei gerddoriaeth yn bennaf o genre disgo ac house ac mae wedi rhyddhau ‘U Got’ a ‘Stop Messin’ ar safle soundcloud, gan ddenu sylw Endaf.