Cyhoeddi enillwyr cyntaf Gwobrau’r Selar

Mae enillwyr dau o gategorïau Gwobrau’r Selar eleni wedi eu cyhoeddi ar raglenni Radio Cymru heddiw.

Lansiwyd wythnos y Gwobrau ar raglen Aled Hughes yn y bore, gyda chyhoeddiad mai Mared Williams oedd enillydd gwobr ‘Seren y Sîn’ eleni.

Darlledwyd sesiwn gan Mared, ynghyd â sgwrs gydag Aled, ochr yn ochr â’r cyhoeddiad. Dyma ran o’r sesiwn:

Yna, neithiwr ar raglen Rhys Mwyn cyhoeddwyd mai gwaith celf yr albwm aml-gyfrannog Cofi 19 oedd enillydd y wobr ‘Gwaith Celf Gorau’ (noddir gan Y Lolfa) eleni.

Carl Tango oedd yn gyfrifol am y gwaith celf, a dyma’r trydydd tro iddo gopio’r wobr ar ôl i’w waith celf ar gyfer albyms Pasta Hull, Achw Met a Chawn Beanz ennill yn 2017 a 2019.

Cafodd Rhys sgwrs fer gyda Carl, oedd i’w weld yn falch iawn gyda’r wobr!

Bydd enillwyr dwy wobr arall yn cael eu cyhoeddi ar raglen Siân Eleri heno, sef ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ (noddir gan Gorwelion) ac ‘Artist Unigol Gorau’.

Dyma gip o lawenydd Carl Tango: