Mae Mr wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Dinesydd’, ers dydd Gwener diwethaf, 18 Mehefin.
Mr ydy prosiect diweddaraf cyn aelod Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, Mark Roberts ac mae wedi bod yn hynod o gynhyrchiol ers dechrau’r prosiect yn 2018.
Mae wedi rhyddhau tri albwm llawn dan yr enw Mr sef ‘Oesoedd’ yn Hydref 2018, ‘Amen’ yn Hydref 2019 a Feiral yn 2020.
Wrth ryddhau’r sengl newydd mae Mark wedi datgelu bod pedwerydd albwm Mr ar y gweill, ac mae’n gobeithio gallu rhyddhau hwn dros yr hydref eleni. Yn wir, mae’r gwaith recordio wedi’i gwblhau’n barod, a’r caneuon wrthi’n aros i gael eu cymysgu ar hyn o bryd.
“Mae’r albwm yn aros i gael ei gymysgu. Dafydd Ieuan yn ddyn prysur a methu micsio fo tan mis Awst” meddai Mark wrth Y Selar.
Wrth ddisgwyl nes hynny, fe wnaeth Mark benderfyniad munud olaf i ryddhau’r sengl ar ôl i gyn-aelod arall Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, Paul Jones, dynnu ei sylw at y ffaith ei bod hi’n gan hafaidd. Mae Paul hefyd yn aelod o fand byw Mr.
“O’n i wedi pasio ‘Dinesydd’ ymlaen i Paul gael chwarae bas arni hi a ddaru o bwyntio allan bod y trac yn swnio’n hafaidd iawn” eglura Mark.
“Felly nes i benderfynu rush releasio fo tra bod y tywydd yn boeth.
“Jyst cân bop fach syml, tafod yn y boch ydy hi. Rhyw fath o love letter i fywyd mewn dinas.”
Mae’r sengl allan yn ddigidol trwy safle Bandcamp Mr.
Llun: Mr – Clwb Ifor Bach 2019 (Llun: Celf Calon / Y Selar / Clwb Ifor Bach)