Fideo ‘Yn y Sŵn (Nijo)’

Mae fideo wedi’i gyhoeddi ar gyfer sengl newydd Adwaith, ‘Yn y Sŵn (Nijo)’.

Rhyddhawyd y sengl ddydd Gwener diwethaf, 26 Chwefror, ac mae’n gweld y grŵp o Gaerfyrddin yn cyd-weithio gyda’r cerddor o Fruli yng ngogledd yr Eidal, Massimo Silverio sy’n canu yn yr iaith Friulian.

Mae’r sengl yn nodi partneriaeth newydd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl SUNS Europe.

Massimo Silverio

Nid dyma’r tro cyntaf i Adwaith ymwneud â Gŵyl SUNS – fe deithiodd y grŵp i ogledd Yr E

idal i berfformio yn yr ŵyl ym mis Tachwedd 2017.

Mae dwy fersiwn o’r gân wedi’i recordio, sef y fersiwn Gymraeg, a’r un ddwyieithog yn y Gymraeg a’r ia

ith Friulian dan yr enw ‘Nijo’.

Mae ‘Nijo’ yn air hynafol yn yr iaith honno sy’n golygu ‘unman’ neu ‘unlle’. Mae hynny’n cyd-fynd â thema’r gân sy’n trafod teimladau, geiriau ac ieithoedd sy’n cyrraedd ‘nijo’ yn y pendraw.

Y cynhyrchydd Jonny Reed sy’n gyfrifol am y fideo newydd