Mae gig arbennig i ddathlu hanes cerddoriaeth dawns Cymraeg yn cael ei gynnal ar 30 Tachwedd yn Theatr Chapter, Caerdydd.
Y band Roughion, a’r label maent yn rhedeg, Afanc, sy’n gyfrifol am drefnu’r gig ac mae’n cael ei ffilmio fel rhan o gyfres Curadur ar S4C.
Bydd dau o fandiau pwysicaf hanes y sin ddawns yng Nghymru’n perfformio yn y gig sef Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog – dau grŵp sydd wedi arloesi gyda cherddoriaeth Gymraeg gan arwain y gad o ran cerddoriaeth ddawns, pop, dub, hip hop a mwy.
Ffurfiwyd Llwybr Llaethog ym 1985 gan John Griffiths a Kevs Ford gan fynd ati i ryddhau’r gerddoriaeth hip hop gyntaf yn y Gymraeg ar y record ‘Dull Di Drais’ y flwyddyn ganlynol. Dros y blynyddoedd maent wedi parhau i arbrofi ac arloesi yn y Gymraeg gyda cherddoriaeth, rap, dub, reggae a pync.
Mae’r grŵp wedi parhau’n weithgar dros y degawdau gan ryddhau cynnyrch newydd a gigio’n rheolaidd.
Ffurfiwyd Tŷ Gwydr gan Mark Lugg a Gareth Potter ym 1989 ar ôl i’w band blaenorol, Traddodiad Ofnus, chwalu. Dim ond am rai blynyddoedd y buo nhw’n wirioneddol weithgar o ran gigio, ond llwyddodd y grŵp i ennyn dilyniant mawr a sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf Cymru. Penllanw hynny oedd gig enfawr ‘Noson Claddu Reu’ ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid adeg Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym 1992.
Er i’r grŵp ddod i ben i bob pwrpas ym 1994, maent wedi ail-ffurfio’n achlysurol ar gyfer perfformio ar lwyfan ers hynny, gan gynnwys ar gyfer gig ‘Hanner Cant’, unwaith eto ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, ym 2012.
Bydd cefnogaeth ar y noson gan Roughion, a dau artist arall sydd dan adain label Afanc, sef Sachasom ac Esther a fydd yn DJio rhwng y bandiau.
Mae tocynnau ar gyfer y gig am ddim, ond mae modd archebu ymlaen llaw ar Eventbrite.
Mae’r digwyddiad yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen Curadur a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C ar 13 Ionawr.
Dyma un o ganeuon enwocaf Tŷ Gwydr, ‘Rhyw Ddydd’ o raglen chwedlonol Fideo 9: