Set rithiol: Eädyth, Yn Fyw O’r Ffwrnes – 05/02/21
Lot o sesiynau’n cael eu ffrydio heddiw oherwydd y busnes Dydd Miwsig Cymru ma – gwybodaeth lawnach am hynny yn ein darn yn crynhoi yn gynharach yn yr wythnos.
Mae gormod yn digwydd i ni drafod popeth yn fanwl, felly rydan ni am bigo un sesiwn benodol sef un Eädyth yn y diweddaraf o’r gyfres gigs ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ sy’n cael eu cynnal gan Theatr y Ffwrnes yn Llanelli.
Mae Eädyth wedi cael blwyddyn anhygoel, ac mae’n debyg ei bod wir wedi mwynhau recordio’r perfformiad ar lwyfan y Ffwrnes felly gwerth tiwnio mewn i sianel YouTube Theatrau Sir Gâr neu dudalen Facebook Theatr y Ffwrnes am 16:00.
Bydd cyfle cyntaf hefyd i glywed ei sengl newydd ‘Breuddwydio’ fel rhan o’r set.
Dyma ragflas:
Cân: ‘Plu’r Gweunydd’ gan Glain Rhys
Mae sengl newydd Glain Rhys, ‘Plu’r Gweunydd’, allan heddiw!
Ac i gyd-fynd â’r sengl roedd cyfle cyntaf i weld y fideo arbennig sydd wedi’i gynhyrchu gan gwmni Amcan ar wefan Y Selar bore ma.
Dyma gynnyrch cyntaf Glain ers rhyddhau ei halbwm cyntaf Atgof Prin yn 2018, ac yn ôl y gantores daeth cyfnod heriol o fethu cyfansoddi ar ôl hynny. Ond, diolch byth, mae Glain yn ei hôl gyda chaneuon a sŵn newydd ynghyd â’r addewid o albwm arall erbyn yr haf, gyda chwpl o senglau eraill cyn hynny.
Mae ‘Plu’r Gweunydd’ wedi ei hysbrydoli gan yr ardal o gwmpas magwrfa Glain ym Mhenllyn. Blodyn ydi plu’r gweunydd sydd ond yn tyfu mewn mannau garw, ond mae’n flodyn hardd er gwaethaf yr amgylchiadau. Mae’r gân yn trafod y cysur o ddod adre a gweld fod pethau yn dal i fod yr un fath, ac yr un mor wydn yn y bôn â’r blodyn bach gwyn.
Mae dylanwadu newydd Glain yn cynnwys Billie Eillish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.
Dyma’r fid:
Record: Albyms Noddfa
Yn bennaf am resymau sydd ddim oll i wneud â cherddoriaeth, mae label Recordiau Noddfa wedi llwyddo i gael cryn dipyn o sylw dros yr wythnos ddiwethaf!
A pham lai na manteisio ar enwogrwydd newydd y sylfaenydd, Llŷr Alun, er mwyn hyrwyddo cynnyrch y label.
Bu tipyn o fynd ar grysau T Crinc dros y dyddiau diwethaf, gyda chyfran o’r gwerthiant yn mynd i achos da Banc Bwyd Arfon a heddiw, gan ei bod hi’n ddydd Gwener Bandcamp, mae cynnig arbennig ar CDs y label wrth brynu ar y llwyfan cerddoriaeth hwnnw.
Os nad ydach chi’n gyfarwydd ag ôl-gatalog Noddfa…wel, fe ddylech chi fod! Mae artistiaid y label yn cynnwys Pasta Hull, 3 Hwr Doeth, G/Murph a JacDa Trippa. Ac mae modd manteisio ar y cynnig arbennig heddiw i archebu copïau CD o albyms rhain i gyd am ddim ond £5 – bargen!
Dylai dau albwm y symudiad hip hop anhygoel, 3 Hwr Doeth, fod ar frig eich rhestr – llwyth o ganeuon crafog a bîts TEW.
Go brin fod angen cyflwyniad ar Pasta Hull, a’r ddau albwm eiconig sydd wedi’u rhyddhau ganddyn nhw hyd yma – Achw Met a Chawn Beanz.
Ond mae hefyd yn werth rhoi gwrandawiad i Pob G*nt A’i G, albwm G/Murph a Kim Ching Hon gan y rapiwr ffraeth JacDa Trippa.
Albyms i gyd ar safle Bandcamp Recordiau Noddfa.
Dyma’r anhygoel ‘Ma Nain Fi’n Well na Nain Chdi’ gan 3 Hwr Doeth:
Artist: Morgan Elwy
Bydd Morgan Elwy yn enw cyfarwydd i rai, ac yn wyneb a llais cyfarwydd i nifer ond mae’n rhyddhau ei sengl unigol gyntaf heddiw.
Mae Morgan yn fwyaf adnabyddus fel basydd a chanwr gyda’r band roc o Ddyffryn Clwyd, Trŵbz, ond wedi penderfynu mentro ar ben ei hun gyda sŵn gwahanol iawn i’w fand.
‘Aur Du a Gwyn’ ydy enw’r sengl gyntaf, a gellir dweud bod y prosiect yn un o ganlyniadau’r pandemig wrth i Morgan fynd ati i weithio ar ei gynnyrch unigol yn ystod haf rhyfedd 2020.
Mae sŵn y gerddoriaeth yn adlais o gerddoriaeth reggae yn bennaf gydag agweddau o bop seicadelig Cymraeg. Ymhlith ei ddylanwadau mae Morgan yn rhestru enwau Geraint Jarman, Gruff Rhys, Neil Young, Chronixx, Meic Stevens, Gregory Isaccs, Colarama a Bob Marley.
Recordiwyd ‘Aur Du a Gwyn’ yng nghartref Morgan ym Mryn Bugad, ac mae’r sengl yn cael ei rhyddhau ar label Bryn Rock.
Yn ôl Morgan mae’r gân yn “cario neges o heddwch a brawdgarwch mewn cymdeithas anghyfiawn.”
Roedd Morgan yn y newyddion am resymau eraill yn ddiweddar hefyd wrth iddo gael llawdriniaeth i roi aren i’w chwaer, Mali. Gwaith da Morgan.
Mae fideo i gyd-fynd â’r sengl a hwnnw i’w weld ar sianel YouTube Bryn Rock…neu cliciwch y botwm ‘chwarae’ isod!
Un Peth Arall: Cyhoeddiadau Gwobrau’r Selar
Wel, mae pethau bach yn wahanol eleni ond rydan ni ar fin cyrraedd uchafbwynt Gwobrau’r Selar!
Ni fydd digwyddiad mawr i ddathlu llwyddiant ein hartistiaid eleni, ond yn hytrach na hynny bydd wythnos o ddathliadau ar BBC Radio Cymru wythnos nesaf, 8-12 Chwefror.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae rhestrau 3 Uchaf y naw categori roeddech chi wedi bod yn pleidleisio drostyn nhw wedi eu cyhoeddi ar raglenni Radio Cymru. Nawr y cyfan sydd ar ôl ydy datgelu pwy sydd wedi dod i frig y bleidlais, ac mae’r cyhoeddiadau hynny’n cael eu gwneud ar draws rhaglenni amrywiol Radio Cymru wythnos nesaf.
Bydd y cyfan yn cael ei lansio ar raglen Aled Hughes bore dydd Llun, gan gynnwys cyhoeddi enillydd un o’r categorïau! Tiwniwch mewn.
Dyma’r rhestrau 3 Uchaf yn llawn:
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)
Cofi 19
3 – Elis Derby
Preseb o Ias – Breichiau Hir
Artist Unigol
Elis Derby
Mared
Ani Glas
Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion)
Mêl
Y Dail
Malan
Cân Orau (Noddir gan PRS for Music)
Pob Nos – Yr Eira
Hel Sibrydion – Lewys
Pontydd – Mared
Record Fer Orau
Ynys Araul – Ani Glass
Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
Pastille – HMS Morris
Seren y Sin
Mared
Sarah Wynn Griffiths
Osian Huw Williams
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C)
Mirores – Ani Glass
Piper Malibu – Papur Wal
Dos yn Dy Flaen – Bwncath
Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)
Rhywbryd yn Rhywle – Lewys
Bwncath II – Bwncath
Map Meddwl – Yr Eira
Band Gorau
Lewys
Yr Eira
Bwncath