Gig: Gwilym, Y Cledrau, Mali Hâf – Clwb Ifor Bach – 01/10/21
Ydyn, mae gigs yn eu hôl ac un o’r bandiau sydd wedi bod yn manteisio’n llawn ar hynny ydy’r Cledrau.
Mae’r pedwarawd o ardal y Bala ac Ynys Môn eisoes wedi perfformio yn Aberystwyth wythnos yma, ynghyd ag ym Mangor Ucha’ wythnos diwethaf, ac maent yn cwblhau eu gwibdaith o brif drefi/dinasoedd prifysgol Cymru gyda gig yng Nghaerdydd heno.
Cofiwch bod sgwrs gyda’r Cledrau am eu halbwm newydd yn rhifyn diweddaraf Y Selar.
Gwilym sy’n hedleinio’r gig yng Nghlwb Ifor Bach heno, ac mae disgwyl eiddgar wedi bod i weld rhain yn ôl ar lwyfan byw unwaith eto. Cymaint felly nes bod y tocynnau eisoes wedi eu gwerthu i gyd ar gyfer y gig ers cwpl o wythnosau.
Mali Hâf sy’n cwblhau’r lein-yp, un arall sydd wedi bod yn brysur yn ddiweddar, gan gynnwys cymryd rhan yng Ngŵyl Newydd, Casnewydd oedd yn digwydd yn rhithiol wythnos diwethaf.
Gwerth nodi bod cyfle hefyd i ddal yr Eira ym Methesda ddydd Sul wrth iddyn nhw ffilmio set ar gyfer cyfres Ar Dâp @ Lŵp, S4C. Gyrrwch neges i Neuadd Ogwen i fachu lle a chael diod am ddim yn y fargen.
Cân: ‘Brychni Haul’ – Papur Wal
Mae Papur Wal wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf wythnos yma, gyda ‘Brychni Haul’ allan yn ddigidol ers dydd Llun.
Dyma’r sengl olaf i’r grŵp ryddhau fel blas cyn i’w halbwm lanio ar 8 Hydref.
Amser Mynd Adra ydy albwm cyntaf y grŵp ac mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i ‘Llyn Llawenydd’ a ryddhawyd ddiwedd Gorffennaf ac ‘Arthur’ a ryddhawyd fis Awst. Teg dweud bod llawer iawn o bobl yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld y record hir yma’n cyrraedd.
“Dyma ein hymgais ar ysgrifennu cân wedi’i ddylanwadu gan y Beatles cynnar” eglura Ianto Gruffydd, canwr a gitarydd Papur Wal.
“Roedd diwedd Haf 2020 yn amser rhyfedd i ni, roedd bywyd fel petai’n mynd yn ôl i ryw raddau o normalrwydd, symudon ni allan o’n tŷ a symudodd pob un i mewn gyda’n cariadon.
“Roedd hyn yn nodi rhyw fath o aeddfedrwydd, ond hefyd cyfnod o addasu ac anawsterau. Ceisiais ysgrifennu’n fwy toreithiog am arsylwi a myfyrio am bethau oedd yn digwydd yn y fan a’r lle.
“Neges gyffredinol y gân yw, dim ots pa mor wael all bethau fod, rydych chi’n aml yn cael amser gwell nag eraill a dylech chi fod yn cyfri’ch bendithion am hynny.”
Record: Santa Roja – Tecwyn Ifan
Mae’r term ‘lejynd’ yn cael daflu rownd braidd yn chwit chwat wrth drafod cerddorion, ond mae ambell un sydd wir yn haeddu’r teitl hwnnw, ac mae Tecwyn Ifan yn un o’r rheiny.
Hynod o gyffrous felly ydy gweld albwm diweddaraf y cerddor gwerinol bytholwyrdd, a boi gwirioneddol neis, yn cael ei ryddhau’r wythnos hon.
Enw’r albwm newydd ydy Santa Roja ac fe’i ryddhawyd ar label Recordiau Sain ddydd Mercher. Yn ôl y label mae’r record newydd yn gasgliad o ganeuon am Gymru, am frawdgarwch, am heddwch ac am obaith.
Mae Tecwyn Ifan yn un o hoelion wyth amlycaf y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac wedi bod yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol Cymru ers y 1970au.
Ffurfiodd ei fand cyntaf, Perlau Taf ar ddiwedd y 1960au pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Dâf.
Ar ôl mynd ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor fe ffurfiodd y grŵp Ac Eraill gyda thri cherddor amlwg arall sef Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards. Chwalodd y grŵp ym 1975, ac fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio fel artist unigol yn fuan wedi hynny.
Albwm unigol cyntaf Tecwyn oedd Y Dref Wen ym 1977 – record sy’n cael ei chydnabod fel un o glasuron mwyaf yr iaith Gymraeg, ac un mae pob casglwr recordiau Cymraeg gwerthu ei halen yn desbrêt i’w gael yn ei gasgliad.
Daeth cyfres o recordiau hir i ddilyn ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au, ac mae wedi rhyddhau deg o albyms hyd yma. Mae sawl un o’r rhain yn glasuron hefyd, gyda Herio’r Oriau Du (1983) a Stesion Strata (1990) yn ddwy sy’n sefyll allan efallai.
Er hynny, Santa Roja fydd ei record hir gyntaf ers Llwybrau Gwyn a ryddhawyd yn 2012.
Fe gafwyd blas o’r albwm yn gynharach yn yr haf ar ffurf y sengl ‘Gweithred Gobaith’ a ryddhawyd ar 2 Awst.
Rhan o gyfrinach hirhoedledd Tecwyn ydy ei barodrwydd i recriwtio cerddorion newydd i gyd-weithio â hwy dros y blynyddoedd, ac mae wedi gwneud hynny ar y record newydd gydag Osian Huw Williams yn cymryd gofal o’r gwaith cynhyrchu.
Hefyd yn cyfrannu at y record mae Aled Wyn Hughes (bas), Pwyll ap Siôn (piano), Elan Rhys (llais cefndir) ac Osian Williams ei hun ar y gitâr a’r drymiau.
Dyma’r trac ‘Gwenoliaid’ o’r albwm newydd:
Artist: Mr
Rhaid rhoi sylw i Mr tua’r amser yma bob blwyddyn, yn syml iawn gan ei fod o’n rhyddhau albwm newydd tua’r amser yma bob blwyddyn yn ddiweddar!
Mr wrth gwrs ydy prosiect cerddorol diweddaraf Mark Roberts o’r Cyrff, Y Ffyrc a Catatonia
Yr wythnos yma mae wedi cynnig blas o’i albwm nesaf gan gyhoeddi trac newydd ar-lein, ‘Dim Byd yn Brifo Fel Cariad’.
Bydd pedwerydd albwm Mr yn cael ei ryddhau ar 15 Hydref eleni, ac mae’r trac ‘Dim Byd yn Brifo Fel Cariad’ yn damaid i aros pryd nes hynny.
Dyma’r ail drac o’r albwm i Mark ddatgelu yn dilyn rhyddhau’r sengl ‘Dinesydd’ ym mis Mehefin.
Enw’r albwm newydd fydd Llwyth ac mae’n ddilyniant i Oesoedd (2018), Amen (2019) a Feiral (2020) ac yn cynnal rhediad Mr o ryddhau albwm bob blwyddyn ers 2018.
Un peth sy’n sicr am Mark ydy fod ganddo’r gallu gwerthfawr a phrin hwnnw o gynhyrchu ‘hits’ – mae wedi gwneud hynny dro ar ôl tro dros y degawdau. Mae ‘Dim Byd yn Brifo Fel Cariad’ yn un arall o’r anthemau yna mae o wedi llwyddo i’w cyfansoddi, ac mae hon yn siŵr o fod yn ffefryn mawr arall ar y tonfeddi – tiiiiwn.
Un Peth Arall: Sister Wives Ar Dâp
Mae tipyn o gyffro wedi bod yn ffrwtian ynglŷn â’r grŵp Cymraeg o Sheffield, Sister Wives, yn ddiweddar ac roedd cyfle i weld set ganddyn nhw ar y sgrin fach wythnos yma.
Y pedwarawd sy’n tynnu ar ddylanwadau ôl-bync a gwerin ydy’r grŵp diweddaraf i berfformio sesiwn fel rhan o gyfres Ar Dâp gan Lŵp.
Mae’r gyfres eisoes wedi darlledu sesiynau diweddar gan 9Bach, Yr Ods a 3 Hŵr Doeth ar-lein.
Ffilmiwyd sesiwn Sister Wives yn Neuadd Ogwen, Bethesda ac am y tro cyntaf yn y gyfres mae cynulleidfa fyw yn gwilio’r set.
Roedd y premiere o’r perfformiad yn darlledu am 17:00 ddydd Mercher diwethaf, ond mae dal modd gwylio ar alw ar sianel YouTube Lŵp.