Rhyddhau sengl Garaint Rhys a Droja

Mae’r cerddor o Abertawe, Geraint Rhys, wedi ffurfio partneriaeth newydd gyda’r cynhyrchydd Droja, ac mae eu sengl gyntaf allan heddiw, 9 Gorffennaf.

‘Memories and Magic’ ydy enw’r sengl gyntaf gan y bartneriaeth, ac mae’n drac electro-pop hafaidd gyda bachyn geiriol cofiadwy.

Er bod cefndir cerddorol y ddau yn wahanol iawn – Geraint yn dod o gyfeiriad cerddoriaeth amgen, a chefndir Droja mewn tecno – mae cariad y ddau o bopeth electronig wedi eu denu ynghyd.

Mae eu cerddoriaeth wedi’i ddylanwadu arno gan artistiaid dawns hafaidd fel Modjo a Chris Malinchak.