Styc gyda Pwdin Reis

Mae sengl ddiweddaraf y band Rockabily hwyliog, Pwdin Reis, allan heddiw.

‘Styc Gyda Ti’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Rosser.

Mae Pwdin Reis yn fand cymharol newydd sy’n cyfuno doniau pedwar o gerddorion profiadol iawn. Yr aelodau ydy Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).

Er yn brosiect cymharol newydd, ‘Styc Gyda Ti’ fydd chweched sengl Pwdin Reis – y ddiweddaraf oedd ‘Galwa Fi’ a ryddhawyd fis Chwefror eleni. Y tro hwn mae’r grŵp wedi troi at y dylanwad pennaf arnynt sef rockabilly pur.

Mae yna elfennau amlwg o arddull gitar Scotty Moore yn y gân yma yn ogystal â solo harmonica sydd yn swnio fel yr hen arddull ‘railroad blues’ o chwarae.

Mae’r gân yn sôn am berthynas anffodus ble mae un cymeriad yn styc gyda’r llall. Yn ôl yr arfer mae’r geiriau yn ceisio creu stori, a’r tro yma stori drist yw honno.

Hon fydd y gân olaf cyn rhyddhau albwm Pwdin Reis fis Medi ac mae’r band yn ysu am chwarae caneuon yr albwm yn fyw mewn cyfres o gigs sydd ar y gweill, gan gychwyn gyda’r Parrot yng Nghaerfyrddin ar 3 Medi.