Mae Achlysurol wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Awst.
‘Caerdydd yn Mis Awst’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau JigCal.
Hon ydy’r drydedd sengl o albwm cyntaf Achlysurol ac mae’n ddilyniant i’r sengl ddwbl ‘Golau Gwyrdd’ a ‘Sinema II’ a ryddhawyd fis Ebrill.
“Mae hi’n gân am ddod drost teimlad o dor calon” meddai Aled Emyr, prif ganwr Achlysurol, am y sengl newydd.
“Neshi sgwennu’r geiriau flynyddoedd yn ôl ond gorffen y gerddoriaeth yn haf 2021.”
Ac yn ôl Aled, mae’r gwaith ar eu halbwm cyntaf yn mynd yn dda gyda bwriad o ryddhau cyn diwedd y flwyddyn.
“Da ni mwy neu lai wedi gorffen recordio ein albwm cyntaf ni lawr yn Gaerdydd hefo Mei Gwynedd, gyda’r bwriad i ryddhau yr albwm mis Tachwedd.”