Albwm newydd Euros Cilds

Mae Euros Childs wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ers dydd Iau 22 Rhagfyr.

Curries ydy enw’r record hir newydd gan y canwr gyfansoddwr cynhyrchiol a ddaeth i amlygrwydd gyntaf fel ffryntman y grŵp arloesol, Gorky’s Zygotic Mynci.

Mae wedi dod y rhyw fath o draddodiad erbyn hyn i weld Euros yn rhyddhau albwm newydd ychydig cyn y Nadolig – llynedd fe laniodd y casgliad Blaming is all on Love ar yr union un dyddiad.    

Yn wir, mae rhyddhau Curries yn cynnal rhediad anhygoel Euros Childs o ryddhau o leiaf un albwm unigol y flwyddyn ers rhyddhau ei record hir gyntaf, Chops, yn 2006.

Mae’r albwm allan yn ddigidol ac ar gael trwy wefan Euros gyda’r cwsmer yn dewis faint maen nhw eisiau talu am y casgliad. 

Recordiwyd y caneuon gyda’r cynhyrchydd Stephen Black, sef y cerddor Sweet Baboo, yn stiwdio Gus’ Dungeon yn ystod misoedd Awst a Rhagfyr eleni. 

Euros sy’n chwarae’r synths, organ piano ac yn canu ar y caneuon, ac mae gwestai arbennig, y gantores Rowena Finlayson, yn ymuno gan gyfrannu ei llais ar dri o’r traciau.  

 

Rhestr caeuon Curries: 

Milk Float 

Jagged Croon 

Elephant Mouse Teacup Sun 

Arisen 

Children of the Tomb 

Clouds Flowers Sky Water 

Darklin 

Coldest Winter 

Never Fading