Mae Gruff Rhys wedi cyfrannu at sengl newydd sydd wedi’i ryddhau gan y grŵp Twareg o’r enw Imarhan.
‘Adar Newlan’ ydy enw’r gân a ryddhawyd wythnos diwethaf ac mae’n cael ei chanu yn yr iaith Gymraeg a Tamasheq, sef fersiwn o’r iaith Twareg sy’n cael ei siarad gan lwythi Nomadig mewn rhannau o Ogledd Affrica.
Grŵp 5 aelod ydy Imarhan a daw’r trac newydd o’u trydydd albwm stiwdio, ‘Aboogi’ sy’n cael ei ryddhau ar 28 Ionawr ar label City Slang.
Bu i Gruff ysgrifennu a recordio’r gân gyda Imarhan yn Stiwdio Aboogi, sef stiwdio’r grŵp yn Tamanrasset yn Algeria.
Mae ’na fideo gwych i gyd-fynd â’r trac, a dyma fo!