Mae Mared wedi rhyddhau ei sengl Saesneg ddiweddaraf ers dydd Gwener 23 Mai.
‘I Don’t Wanna Know’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist o Ddyffryn Clwyd, a dyma’r bedwaredd sengl iddi ryddhau’n ddiweddar. Dyma hefyd y sengl olaf ganddi fel blas o’i EP newydd fydd allan fis Mehefin.
Y traciau sydd eisoes wedi gweld golau dydd ydy ‘Pictures’, ‘Let Me Go’ a ‘Something Worth Losing’.
Nate Williams sydd wedi cynhyrchu a chyd-ysgrifennu’r traciau ar ôl i’r ddau gyfarfod dan gyfyngiadau’r clo mawr yn 2020.
Bydd Mared yn cynnal noson lansio’r EP ar 20 Mehefin yn Piano Smithfield yn Barbican, Llundain.