Sengl newydd Burum

Mae’r grŵp jazz uchel eu parch, Burum, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 27 Mai. 

‘Cariad Cywir’ ydy enw’r trac newydd gan y band profiadol, a dyma’r sengl gyntaf i’w rhyddhau ganddynt oddi-ar eu pedwerydd albwm, ‘Eneidiau’, fydd allan yn fuan.

Mae’r albwm newydd yn gyfraniad pwysig arall gan Burum i gerddoriaeth jazz o Gymru, ac mae naws Gymreig digamsyniol i’r record.  

Bydd ‘Eneidiau’ yn cael ei ryddhau ym mis Gorffennaf 2022, a bydd yn cael ei ryddhau ar y label Recordiau Bopa ar ffurf record feinyl, yn ogystal ag ar y llwyfannau digidol arferol.  

Mae Burum yn parhau â’u harfer o gyflwyno trefniannau jazz newydd o hen alawon gwerin Cymraeg. Ar y sengl newydd cawn ddarlleniad egnïol o ‘Cariad Cywir’ sy’n cynnwys unawd ar y sach-bîb – offeryn anghyffredin yn y byd jazz. 

Arweinir Burum gan y trwmpedwr Tomos Williams (Khamira, Cwmwl Tystion) sydd hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd cyfresi jazz BBC Radio Cymru a’i frawd Daniel Williams ar y tenor sacs. 

Dyma’r albwm gyntaf i gynnwys aelod diweddaraf y band – Patrick Rimes (Calan, Vrï) ar y sach-bîb a’r chwibanogl, sydd yn gosod sŵn y band tu allan i fyd y chwechawd jazz arferol, ac sy’n ategu’r naws gwerinol. Mae Dave Jones (piano), Aidan Thorne (bas) a Mark O’Connor (drymiau) wedi bod yn gonglfeini Burum a’r sîn jazz yn Nghymru ers blynyddoedd bellach, ac yn gerddorion heb eu hail.

Mae Burum wedi bod yn bodoli ers dros 10 mlynedd bellach, ac mae’r cyfeillgarwch a’r empathi cerddorol sydd wedi tyfu dros y cyfnod yma yn amlwg i’w glywed yn y gerddoriaeth. 

Mae Burum yn fand â sain nodweddiadol sy’n fwy na grŵp o unigolion yn chwarae gyda’i gilydd. Maent wedi cael y cyfle i deithio India ddwywaith, wedi chwarae yng Ngŵyl Geltaidd Lorient, Llydaw, amryw o weithiau ac wedi chwarae yng ngwyliau Jazz Aberhonddu a Teignmouth.  Dyma bedwerydd albwm y band gan ddilyn Alawon (2007) Caniadau (2012) a Llef (2016).