Mae HMS Morris ar fin rhyddhau eu trydydd albwm, ‘Dollar Lizard Money Zombie’, fydd allan ar label Bubblewrap Collective ar 15 Medi.
Daw’r record yma i ddilyn y recordiau hir Interior Design ac Inspirational Talks; y ddau ohonynt wedi eu henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn y gorffennol.
Disgrifir eu cerddoriaeth fel pop arbrofol sy’n edrych tuag ymlaen, a’r sain hwnnw’n gwau trwy eu caneuon Saesneg a’u caneuon Cymraeg – y mwyaf adnabyddus o’r rheiny fyddai ‘Cyrff’ a ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’.
Yn wir, er mai Saesneg yw teitl y record, mae sawl cân Gymraeg ar yr albwm newydd. Yn eu plith, mae’r ddwy gân ‘Bach a Dwl’ a ‘110’, sydd ymysg traciau trymaf a bywiocaf yr albwm, ac yna ‘Datganiadau’, sy’n llawer mwy acwstig.
Gellir disgwyl i’r albwm fynd â’i gwrandawyr ar daith gan gyfuno genres megis synth-pop ac electro-metal, ac arddangos eu gallu i ‘asio hunanymholiad meddylgâr â dawn dweud stori ysgafn’.
Dyma’r tro cyntaf i’r band, sy’n cael ei ffryntio gan yr artist gweithgar Heledd Watkins, gynnwys yr aelodau Billy Morley ac Iestyn Huw Jones ar un o’u halbyms.
Mae’r grŵp wedi ennill poblogrwydd hefyd ar y sîn fyw, gyda pherfformiadau unigryw sydd wedi gadael eu hoel ar gynulleidfaoedd y Dyn Gwyrdd, Glastonbury, Sŵn, Pop Montreal a mwy.
Caiff yr albwm ei lansio yn Cultvr Lab, Caerdydd ar 15 Medi, ac yna gellir eu dilyn ar eu taith ledled Cymru drwy fis Hydref a mis Tachwedd.
Manylion taith ‘Dollar Lizard Money Zombie’ HMS Morris:
HYDREF
14 – Y Seler, Aberteifi
18 – Ivy House, Peckham, Llundain
19 – Crofter’s Rights, Bryste
20 – Common Ground Cafe, Rhydychen
27 – Cell B, Blaenau Ffestiniog
28 – Lleisiau Eraill, Aberteifi
TACHWEDD
3 – Elysium Gallery & Bar, Abertawe
10 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd (yn cefnogi Tricot)
17 – Telford’s Warehouse, Caer