Mae Mali Hâf wedi rhyddhau ei EP newydd ers dydd Gwener 3 Tachwedd.
Jig-so ydy enw’r record fer newydd sydd allan drwy Recordiau Côsh.
Roedd y gantores eisoes wedi cynnig blas o’r casgliad newydd ar ffurf y sengl ‘Boudicca’ a ryddhawyd ar 27 Hydref.
Mae Mali’n credu bod yr EP hwn yn ei gweld hi’n cymryd camau mawr ymlaen gyda’i pherfformiad, trefniant cerddorol a’i delwedd fel artist, yn bennaf oherwydd ei bod yn barod i arbrofi a mentro.
Yn ôl y gantores, mae enw’r EP yn un arwyddocaol yn hyn o beth. Dywed fod ‘Jig-so’ yn drosiad ar gyfer dod o hyd i’r darnau i greu celf a cherddoriaeth llwyddianus ac yn ehangach y darnau a’r dewisiadau sy’n arwain at fywyd cyflawn i fenyw ifanc yn y Gymru gyfoes.
Mae hi hefyd yn hoffi sut mae’r teitl yn cynnwys y gair ‘Jig’, sef dawns Geltaidd. Mae’r EP yn cynnwys cerddoriaeth sy’n cael ei ganu mewn iaith Geltaidd a fydd yn gwneud i chi fod eisiau dawnsio, bron fel jig modern.
Bwriad Mali gyda’r casgliad byr yma ydy cyfuno alawon gwerinol eu naws a iaith farddonol gyda synau difyr pop electronig modern.