FRMAND yn ail-gymysgu trac Dafydd Hedd

Dafydd Hedd ydy’r artist diweddaraf i gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd electronig FRMAND. 

Mae’r ddau wedi dod ynghyd i ryddhau ailgymysgiad o’r trac ‘Colli Ar Fy Hun’ a ymddangosodd ar EP Dafydd, Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim’, a ryddhawyd ym Mai 2021. 

Artist 20 oed o fynyddoedd Eryri yw Dafydd Hedd ac mae wedi bod yn gigio dros Gymru a Bryste gyda’i draciau dawns, indî a roc. 

Mae FRMAND yn gynhyrchydd electronig o Langrannog sydd eisoes wedi cyd-weithio gydag artistiaid fel Mali Haf, Mabli, Sorela a Lowri Evans. 

Bu’r ddau’n ran o gig Twrw Trwy Dydd yn Clwb Ifor Bach fis Ebrill gan berfformio’r fersiwn newydd o ‘Colli Ar Fy Hun’ yn fyw am y tro cyntaf. 

Mae’r ailgymysgiad newydd DNB o ‘Colli Ar Fy Hun’ allan ar Recordiau BICA ers dydd Gwener 12 Mai.