Lisa Gwilym ydy enillydd Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar

Mae’n bleser a braint gan Y Selar i gyhoeddi mai enillydd ein gwobr Cyfraniad Arbennig eleni ydy Lisa Gwilym.

Datgelwyd y newyddion yn fyw ar Radio Cymru wrth i Rhys Mwyn gyflwyno rhaglen Georgia Ruth ar nos Fawrth 14 Chwefror.

Roedd Lisa yn westai ar y rhaglen a dan yr argraff ei bod hi yno am sgwrs gyffredinol am y gwobrau eleni pan gyhoeddwyd y newyddion.

Bydd Lisa, sydd bellach yn cyflwyno rhaglen foreol ar Radio Cymru 2, yn nodi 20 mlynedd ers dechrau cyflwyno ar Radio Cymru eleni ac wedi bod yn genad amlwg i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg dros y cyfnod hwnnw gan gynnig llwyfan cyson i artistiaid Cymraeg a’u cerddoriaeth.

Cydnabyddiaeth

Y cyhoedd sy’n dewis y mwyafrif o enillwyr Gwobrau’r Selar yn flynyddol ac mae’r bleidlais gyhoeddus eleni newydd gau dros y penwythnos. Er hynny, tîm golygyddol Y Selar sy’n gyfrifol am ddethol enillydd y Wobr Cyfraniad Arbennig ac roedd Lisa Gwilym yn ddewis amlwg y tro hwn yn ôl Uwch Olygydd Y Selar.

“Pan sylweddolon ni fod Lisa’n nodi y garreg filltir o fod yn cyflwyno ar Radio Cymru ers 20 mlynedd eleni, roedd hi’n amlwg i ni mai hi ddylai dderbyn y Wobr Cyfraniad Arbennig eleni” eglura Owain Schiavone.

“Cerddorion sydd wedi ennill y wobr ers i ni ei sefydlu yn 2015, ond y nod ydy dangos gwerthfawrogiad i bobl sydd wedi cael dylanwad sylweddol ar artistiaid a’r diwydiant dros gyfnod hir o amser, ac sy’n parhau i wneud hynny. Wrth gwrs, mae dylanwad yn gallu ymestyn y tu hwnt i’r gerddoriaeth ei hun, ac mae’r bobl hynny sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ac yn ei ymestyn i gynulleidfa ehangach yn bwysig iawn.

“Petai chi’n gofyn i unrhyw artist Cymraeg cyfoes enwi 5 o bobl sydd wedi cael dylanwad ar eu gyrfa, dwi’n weddol sicr y byddai enw Lisa’n ymddangos ar restr y mwyafrif.

“Dros y blynyddoedd mae hi wedi cyfweld cannoedd o artistiaid ar ei rhaglenni, heb sôn am chwarae eu cerddoriaeth am y tro cyntaf ar yr radio. Tybed faint o bobl sy’n cofio clywed eu hoff fand neu artist gyntaf ar raglen Lisa Gwilym?

“Ar ben hynny mae hi wedi bod yn wyneb cyson mewn gwyliau a gigs, gan gyflwyno artistiaid ar y llwyfan, ynghyd â chyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar S4C. Does dim amheuaeth bod Lisa wedi bod yn gwbl ganolog i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg dros y ddau ddegawd diwethaf ac yn llawn haeddu’r gydnabyddiaeth yma.”

Y wobr Cyfraniad Arbennig ydy’r gyntaf i’w cyhoeddi o Wobrau’r Selar eleni a bydd enillydd Gwobr 2022 yn cael ei ddatgelu’n ddiweddarach wythnos yma. Bydd enillwyr gweddill y gwobraul, sef y naw categori oedd yn ran o’r bleidlais gyhoeddus, yn cael eu datgelu ar raglenni Radio Cymru yn ystod wythnos 20 Chwefror.

Dyma’r foment y clywodd Lisa’r newyddion yn fyw ar Radio Cymru: