Mae Mei Gwynedd wedi rhyddhau ei albwm newydd sy’n gasgliad o fersiynau newydd o hen ganeuon traddodiadol cyfarwydd.
Dros y blynyddoedd mae Mei wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth fel aelod o rai o grwpiau mwyaf blaengar y sin roc Gymraeg gan gynnwys Beganifs, Big Leaves, The Peth a Sibrydion. Er hynny, yn 2023, mae’r cerddor amryddawn wedi troi at ail-gynhyrchu ac ail-recordio detholiad o ganeuon traddodiadol Cymraeg, gan ryddhau’r albwm dan yr enw ‘Sesiynau Tŷ Potas’.
Ers 2018, mae Mei wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol, gyda’r albwm ‘Glas’ yn ymddangos yn 2018 ac yna ‘Y Gwir Yn Erbyn Y Byd’ yn 2021. Bu iddo hefyd gyfansoddi’r gân dorfol ‘Pethau Bychain’, ail-recordio a chynhyrchu fersiwn cyfoes o ‘Hei Mistar Urdd’, (a dorrodd record Guinness World Records yn 2023) yn ogystal â bod yn rhan o sawl prosiect cyfansoddi a chynhyrchu arall.
Teimla Mei fod 2023 yn flwyddyn i adlewyrchu ar ei gerddoriaeth, a’r gerddoriaeth sydd wedi ei ddylanwadu fel Cymro balch heddiw. Canlyniad hyn yw ail-recordio’r detholiad o ganeuon poblogaidd a thraddodiadol Cymraeg sy’n cynnwys ‘Defaid William Morgan’, ‘Titw Tomos Las’ a ‘Sosban Fach’ i enwi dim ond rhai.
“Ges i’n magu’n gwrando ar fandiau fel Tebot Piws, Hogia’r Wyddfa, Mynediad Am Ddim, Dafydd Iwan heb sôn am yr ystod o ganeuon traddodiadol o’n i’n canu tra’n yr ysgol ac yn y capel pan o’n i’n ifanc” meddai Mei.
“Wrth deithio Cymru fel band a chynnal gweithdai efo pobl ifanc, nes i weld a theimlo’r angen i gydnabod y caneuon hynny, a bod dyletswydd i rannu a chario ‘mlaen efo’r traddodiad o’u canu am flynyddoedd i ddod, i’n plant ac o genhedlaeth i genhedlaeth.
“Nes i fynd ati i gyd-weithio efo ystod o gerddorion talentog ac ail-recordio detholiad o ganeuon efo’r bwriad o greu naws ‘eistedd mewn tafarn traddodiadol, byrlymus.’ A dyma felly gyflwyno’r cyfanwaith ’dan yr enw, ‘Sesiynau Tŷ Potas”!
Mae ‘Sesiynau Tŷ Potas’ allan ar label Mei, JigCal, ac mae fersiwn carioci o’r casgliad hefyd yn ymddangos ar y llwyfannau ffrydio arferol.
Caneuon Sesiynau Tŷ Potas
- Titw Tomos Las
- Blaenau Ffestiniog
- Mair Paid Ag Wylo Mwy
- Defaid William Morgan
- Rownd Yr Horn
- Calon Lân
- Elen Tyrd Yn Ôl
- Lleucu Llwyd
- Moliannwn
- Lawr Ar Lan Y Môr
- Sosban Fach
- Ceidwad Y Goleudy
- Cân Y Medd
Dyma fersiwn Mei o ‘Lleucu Llwyd’: