Mae’r band o Wynedd, Achlysurol, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw Rhywle Pell.
Triawd o’r Felinheli ydy Achlysurol, sy’n cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, a’u ffrind Ifan Rhys Williams.
Maent wedi cael ymateb da i’w cyfres ddiweddar o senglau sy’n cynnwys ‘Caerdydd Yn Mis Awst‘, ‘Un Noson Arall’ a ‘Golau Gwyrdd’, ac maent bellach wedi rhyddhau casgliad llawn o ganeuon ers dydd Gwener 12 Mai.
Dyma record hir gyntaf y band ac mae’n rhannu enw eu sengl ddiweddaraf ‘Rhywle Pell’ a ryddhawyd fel tamaid i aros pryd fis Ebrill.
Mae sain y band yn fachog ac yn felodig, gyda’u trefniadau hamddenol, hypnotig yn gweddu’r haf yn berffaith.
“Cafodd Rhywle Pell ei chyfansoddi ar lannau’r Felinheli a’i recordio yng Nghaerdydd gyda chaneuon am Gaerdydd, Llundain a hyd yn oed y gofod” eglura Aled (llais a gitâr).
“Mae hi’n hafaidd a ffynci, a da ni’n edrych ymlaen i chi glywed hi yn ei chyfanrwydd.”
Yn ogystal â bod yn brysur yn recordio, mae Achlysurol wedi bod yn cyd-drefnu gigs lleol yn eu cynefin a bydd un arall arbennig yn cael ei drefnu ar gyfer lansiad yr albwm, gyda mwy o fanylion i ddilyn yn fuan.
Mae Rhywle Pell allan yn ddigidol yn y mannau arferol ar label Recordiau Jigcal.