Mae’r gantores jazz-pop addawol, Malan, wedi rhyddhau ei EP cyntaf ers dydd Gwener 13 Hydref.
‘Bloom’ ydy enw’r EP newydd sydd allan ar label The Playbook, ac sydd ar gael ar y llwyfannau digidol arferol.
EP 5 trac ydy hwn sy’n arddangos galluoedd lleisiol arbennig Malan, ynghyd a’i gallu i ysgrifennu cân fachog.
Mae uchafbwyntiau’r casgliad, sy’n llifo o synau jaz,z yn cynnwys yr anthem obeithiol ‘We’ll be Alright’, ynghyd â’r trac arall sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf ‘What Would I Do?’
Mae Malan yn artist ifanc sy’n dal ddim ond yn ei hugeiniau cynnar, ond sydd eisoes wedi creu argraff gyda’i senglau cyntaf, gan gynnwys ‘Busy Bee’ a ryddhawyd yn 2019 a ‘Magic’ a ryddhawyd llynedd.
Yn ôl ei label, mae ‘Bloom’ yn nodi esblygiad pellach yr artist gan gyfuno synau retro gyda rhai modern i greu rhywbeth ffresh a chyffrous – mae’n cynnig perspectif jazz-pop unigryw.
Dyma drac agoriadol yr EP, ‘Picking Petals’: