Mae HMS Morris wedi cyhoeddi manylion taith hyrwyddo eu halbwm newydd ‘Dollar Lizard Money Zombie’.
Bydd albwm diweddaraf y band yn cael ei ryddhau ar 15 Medi, a bydd y gyfres o gigs hyrwyddo’n digwydd yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd.
Bydd y daith yn gweld HMS Morris yn perfformio yn Aberteifi, Blaenau Ffestiniog, Caerdydd ac Abertawe yng Nghymru, ynghyd ag yn Llundain, Bryste, Rhydychen a Chaer yn Lloegr. Mae tocynnau mwyafrif y gigs (ar wahân i Aberteifi a Chaer) bellach ar werth.
Dyddiadau llawn y daith:
14 Hydref – Y Selar, Aberteifi
18 Hydref – Ivy House, Peckham, Llundain
19 Hydref – Crofter’s Right, Bryste
20 Hydref – Common Ground Cafe, Rhydychen
27 Hydref – Cell B, Blaenau Ffestiniog
3 Tachwedd – Elysium Gallery and Bar, Abertawe
10 Tachwedd – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
17 Tachwedd – Telfords Warehouse, Caer