Mae’r band Ynys wedi rhyddhau eu sengl newydd, sef teitl drac eu halbwm diweddaraf.
A hwythau’n gweld eu hail albwm, ‘Dosbarth Nos’, ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024, maent wedi penderfynu cyhoeddi’r trac sy’n rhannu enw’r record hir fel sengl.
Bydd seremoni wobrwyo’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar nos Fawrth 8 Hydref, felly mae dyddiad rhyddhau’r trac yn amserol.
Mae’r albwm yn cofleidio palet sain llachar a lliwgar ac yn pwysleisio gallu’r band i ysgrifennu alawon pop disglair.
‘Dosbarth Nos’ yw man cychwyn yr albwm yn ôl prif leisydd ac arweinydd y band, Dylan Hughes.
“Dyma’r gân a ddechreuodd y cyfan” eglura Dylan.
“Roedd gennai’r teitl ac o hynny ymlaen, adeiladais yr albwm o’i chwmpas hi. Mae’n gân sy’n dilyn stori o fod ar goll yn y ddinas fawr, yn ansicr o bwy ydych chi ragor.”
Eglura Dylan ei fod yn gweld Dexys Midnight Runners fel un o brif ddylanwadau’r trac.
“Gallaf glywed elfennau o hynny yn ‘Dosbarth Nos’, yn bendant” meddai’r gŵr o Aberystwyth.
“Mae’n gân sy’n dawnsio’n agos at ymyl y cliff edge pop yna, ond dwi’n meddwl ein bod ni ar yr ochr iawn iddi.”
Heb os un o leisiau mwyaf cyffrous cerddoriaeth Gymraeg heddiw, mae ‘Dosbarth Nos’ yn sengl olaf deilwng sy’n dal egni ac ysbryd y record yn berffaith.