Rhyddhau albwm newydd Yws Gwynedd

Mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau ei albwm newydd, Tra Dwi’n Cysgu. 

Yn 2017, wedi gig lwyddiannus yng Ngŵyl Rhif 6, penderfynodd Yws Gwynedd a’i fand bod eu cyfnod wedi dod i ben, ar ôl rhyddhau dau albwm a gigio am bedair blynedd, yn torri recordiau niferoedd torfeydd byw a ffigyrau ffrydio yn y broses.

Pan ddaeth y cyfnod clo, penderfynodd y band i ail-gydio ynddi drwy recordio cân dros Zoom, gyda ‘Deryn Du’ yn ail gyna’u wefr o greu cerddoriaeth. 

Pan ddaeth diwedd y cyfyngiadau, aeth y band yn ôl i gigio, a daeth mwy o gerddoriaeth yn sgil hynny, wrth i ‘Ni Fydd y Wal’ a ‘Dau Fyd’ gael ei rhyddhau yn 2021 a 2022. 

Dechreuodd y pedwarawd weithio ar albwm newydd yn 2022 ac er iddynt fod yn brysur yn gweithio ar brosiectau amrywiol eu hunain, cafodd senglau eu rhyddhau wrth iddynt fod yn barod, a bellach mae’r cyfanwaith wedi’i gwblhau. 

Gyda chaneuon yn amrywio o pop-ddawns i ganu gwlad, ac o roc-indi i blues, mae’r albwm yn cynnwys rhywbeth i bawb a’r geiriau’n sôn am bopeth o heneiddio i gynnydd cymdeithasol, ac o ddathlu bywyd i’r hawl i farw gydag urddas. 

Mae hi’n 10 mlynedd ers sefydlu’r band eleni, a hefyd ers i’w halbwm cyntaf, ‘Codi/\Cysgu’, gael ei rhyddhau yn 2014. 

Yn ogystal, mae hi’n 20 mlynedd ers i cyn-fand y canwr, ‘Frizbee’, rhyddhau eu halbwm cyntaf Hirnos, a 25 mlynedd ers i’w fand cyntaf un, Yr Anhygoel, rhyddhau eu EP Cyntaf Parti yn dy Ben. 

Roedd Yws Gwynedd yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar ddyddiad rhyddhau’r albwm, sef nos Wener diwethaf 22 Tachwedd, yn ogystal ag yn y Ddawns Rhyngol yn Aberystwyth y noson ganlynol i ddathlu rhyddhau Tra Dwi’n Cysgu.

Dyma’r teitl-drac ar gyfer yr albwm:

Gadael Ymateb