‘Galaru’ – cerddoriaeth newydd gan Talulah

‘Galaru’ ydy enw’r sengl newydd gan Talulah sydd allan nawr ar label Recordiau I KA CHING. 

Canwr, cyfansoddwr a DJ o Ogledd Cymru yw Talulah ac maent yn plethu dylanwadau jazz a chlasurol gyda chanu breuddwydiol a harmonïau cyfoethog. 

Dyma’r cynnyrch diweddaraf gan yr artist newydd cyffrous a gwnaeth eu senglau blaenorol, ‘Slofi’ a ‘Byth yn Blino‘, argraff gref yn syth wrth ddawnsio rhwng genres a chwarae gyda gweadau offerynnol, yn ogystal â’u perfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mae’r sengl newydd, ‘Galaru’, yn ceisio portreadu’r cymysgedd o bŵer, serch a hunanhyder sydd i’w gael o fewn y perthnasoedd cymhleth rhwng pobl. 

Unwaith eto bu Talulah yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd, Llŷr Pari, yn ei stiwdio ym Mae Caerdydd. 

Gadael Ymateb