Y band lleol o’r Cymoedd, Dim Gwastraff oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar Lwyfan y Maes yr Eisteddfod ar ddydd Mercher yr Eisteddfod gyda phedwar artist newydd yn cystadlu am y teitl yn y rownd derfynol. Y tri arall fu’n herio Dim Gwastraff oedd Ifan Rhys, Tesni Hughes a’r band Seren.
Aelodau Dim Gwastraff ydy’r prif ganwr, Liv Williams, y gitarydd Toby King, Sam Veale ar y bâs ac Evan Davies ar y drymiau.
Er mai dim ond ym mis Ionawr y ffurfiodd y band yn swyddogol, mae’r aelodau i gyd yn ffrindiau ers amser maith, rhai ers bod yn yr ysgol gyda’i gilydd. Bellach maen nhw’n astidio cerddoriaeth gyda’i gilydd yn y coleg.
Mae sain digon unigryw yn y Gymraeg gan Dim Gwastraff fel yr eglurodd Olivia yng nghylchgrawn Y Selar cyn y gystadleuaeth
“Fel arfer fyswn i’n dweud bo ni’n chwarae pop punk…ein prif ysbrydoliaeth ydy’r band Cymraeg o’r enw Neck Deep” meddai’r canwr.
Mae’r band hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth y band Americanaidd, Paramore.
A hwythau’n dod o ardal y Rhondda, roedd yn briodol iawn mai nhw oedd enillwyr y gystadleuaeth – roedd y gân gyntaf a gyfansoddwyd ganddynt yn trafod y ddeuoliaeth o “ddiflastod” byw yn y Rhondda, ond eu bod nhw’n ei garu ar yr un pryd.
Cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal ar y cyd yn flynyddol gan Maes B a BBC Radio Cymru ydy Brwydr y Bandiau gyda’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, sesiwn recordio gyda BBC Radio Cymru a chyfle i berfformio ar lwyfan Maes B ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod.
Fel rhan o’r gystadleuaeth, roedd y pedwar artist oedd yn y rownd derfynol eisoes wedi recordio cân ar gyfer Radio Cymru, ac mae modd clywed rhain ar wefan Radio Cymru ac ar YouTube Maes B.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Gwyn Rosser o’r band Los Blancos, Ifan Pritchard o’r band Gwilym a’r gantores Marged Sion sydd wedi bod yn aelod o’r band Self Esteem.
Mae modd darllen mwy am holl artistiaid y rownd derfynol yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.
Dyma’r gân a recordiwyd gan Dim Gwastraff: