Cyfres gigs Byw Rio 18

Mae’r band sy’n cael eu harwain gan y cerddor amryddawn Carwyn Ellis, Rio 18, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs byw i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf. 

‘Radio Cévere’ ydy enw’r albwm newydd gan Rio 18 a ryddhawyd rhyw fis yn ôl a dyma’r cynnyrch diweddaraf gan prosiect sydd wedi’i ysbrydoli gan gyfnod a dreuliodd Carwyn ym Mrasil. 

Bydd y daith yn ymweld â chwech o leoliadau dros gyfnod o wythnos gan gynnwys Caerdydd, Aberystwyth, Llundain, Abertawe, Manceinion a Bethesda. 

Bydd cefnogaeth ar y daith gan Elijah Minnelli sy’n perfformio cerddoriaeth dub cumbia. 

Dyddiadau taith Tachwedd Rio 18:

1 Tachwedd – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

2 Tachwedd – Y Cŵps, Aberystwyth

3 Tachwedd – The Social, Llundain

6 Tachwedd – Bunkhouse, Abertawe

7 Tachwedd – The Yard, Manceinion

8 Tachwedd – Neuadd Ogwen, Bethesda