Mae’r ddeuawd Siula wedi dychwelyd gyda’u sengl ddiweddaraf sydd allan ar label Libertino.
Siula ydy prosiect y cerddorion Iqra Malik a Llion Robertson ac enw eu sengl newydd ydy ‘Llygaid’.
Mae ‘Llygaid’ yn drac hudolus sy’n treiddio’n ddwfn i’r profiad dynol o geisio dod o hyd i bwrpas a chysylltiad.
Yn gyfarwydd am eu cyfuniad unigryw o electro-pop sinematig a’u melodïau melancolaidd, mae sengl newydd Siula yn tywys gwrandawyr i fyd dirgel pell sy’n codi cwestiynau am broblemau mawr y byd.
Gan dynnu ar weadau atmosfferig a churiadau electronig miniog, mae’r gân yn ymwneud â’r frwydr i ddod o hyd i gyfeiriad ac ystyr mewn bywyd, thema y mae’r ddeuawd yn ei mynegi gydag emosiwn a gonestrwydd amrwd.
“Mae ‘Llygaid’ yn adlewyrchu’r teimlad o fod ar goll ac yn dyheu am fod mewn lle gwell, cliriach” meddai Siula.
“Mae’n ymwneud â dawnsio yn y tywyllwch, i chwilio am yr ateb, i chwilio am y golau.”
Mae ‘Llygaid’ yn ddilyniant i sengl gyntaf Siula, ‘Golau Gwir’ a ryddhawyd yn Hydref 2023, ac yna’r trac ‘Lucid Love’ a laniodd ym mis Mawrth eleni.
Gyda’i churiadau hypnotig a’i geiriau gafaelgar, mae ‘Llygaid’ yn gân sy’n ein cludo ar daith bersonol a’n gwahodd gwrandawyr i ddilyn Siula, gam wrth gam.