Mae Malan wedi rhyddhau ei sengl newydd ar label Recordiau Côsh.
‘Dau Funud’ ydy enw’r trac newydd ganddi, ac er ei bod eisoes wedi hen wneud ei marc gyda’i chyfuniad unigryw o jazz a phop gyda geiriau chwareus a bachog mewn gigs byw ac ar senglau Saesneg, dyma’i sengl gyntaf yn y Gymraeg.
Roedd Malan wedi datgelu bod y sengl ar y ffordd yn ystod sgwrs gyda golygydd Y Selar, Gruffudd ab Owain, yng Nghaffi Maes B, Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.
Mae’r trac yn nodi carreg filltir arbennig i Malan gan mai dyma yw’r tro cyntaf iddi ryddhau cân wreiddiol yn y Gymraeg, sy’n dangos ei hymrwymiad i gyflwyno ei sain nodedig i gynulleidfaoedd newydd.
‘Moment arbennig’
Mae ‘Dau Funud’ yn drac wedi’i ysbrydoli gan bossa nova ac yn cyfleu arddull nodweddiadol Malan o asio dylanwadau jazz llyfn â synhwyrau pop.
Mae’r gân yn adrodd hanes cariadon, o safbwynt rhywun sy’n cymryd eu hamser i deimlo’n gyfforddus yn y berthynas, gan ofyn i’w bartner aros ‘dau funud’ tra byddant yn dal i fyny’n emosiynol. Wrth adrodd stori fywiog a chyfarwydd, mae ‘Dau Funud’ yn gwahodd gwrandawyr i sain ffres.
Yn dilyn llwyddiant ei EP cyntaf, ‘Bloom’, ddaeth allan fis Hydref 2023, mae Malan eisoes wedi gwneud ei marc yn y byd cerddoriaeth a’n edrych ymlaen at y bennod nesaf.
Wedi’i gyd-ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Nathan Williams — aml offerynnwr sydd wedi teithio gyda phobl fel Jamiroquai a Steve Winwood — glaniodd ‘Bloom’ ar restr chwarae ‘New Music Friday UK’ Spotify.
Mae traciau’r EP wedi cael eu chwarae ar BBC Radio 1 a BBC 6 Music, gan gadarnhau bod Malan ymysg yr artistiaid newydd mwyaf addawol yn y sin pop jazz.
“Mae rhyddhau ‘Dau Funud’ yn foment arbennig iawn i mi” eglura Malan.
“Mae canu yn Gymraeg yn teimlo fel dod adref, a dwi’n gyffrous i rannu’r rhan yma o fy hun gyda gwrandawyr. Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn cysylltu ag egni chwareus y gân, p’un a ydyn nhw’n deall y geiriau neu beidio.”
Yn rhannu sain gyda phobl fel Eloise, Mathilda Homer, ac Olivia Dean, mae Malan yn cyfuno’r hiraethus a’r modern.
Gyda ‘Dau Funud’, mae Malan yn parhau i wthio ffiniau gan arddangos ei hyblygrwydd fel cyfansoddwr.