Bydd dwy o recordiau’r band eiconig Ffa Coffi Pawb yn cael hail-ryddhau, a’u cyhoeddi ar ffurf feinyl am y tro cyntaf, yn 2025.
‘Dalec Peilon’ a ‘Clymhalio’ ydy’r ddau albwm o ôl-gatalog Ffa Coffi Pawb sy’n cael eu hail-ryddhau, a hynny ar y label annibynnol Ara Deg. Bydd ‘Dalec Peilon’ allan ar 21 Chwefror ac yna ‘Clymhalio’ yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Nifer cyfyngedig o ddim ond 600 copi o’r recordiau fydd yn cael eu rhyddhau, ac mae’r trac ‘Valium’ sydd ar yr albwm ‘Dalec Peilon’ wedi’i ryddhau ar y llwyfannau digidol arferol eisoes. Mae’r newyddion am y recordiau’n cael ei ddatgelu wrth baratoi at ddarllediad rhaglen ddogfen am Ffa Coffi Pawb fydd ar S4C dros y Nadolig.
Ffurfiwyd Ffa Coffi Pawb ym Methesda ym 1986 gan ffrindiau un ar bymtheg oed, Gruff Rhys a Rhodri Puw, a’r flwyddyn ganlynol ymunodd Dafydd Ieuan a Dewi Emlyn â’r band. Dros saith blynedd, chwaraeodd y band gigs arbrofol a rhyddhau cerddoriaeth bop seicedelig ogoneddus cyn chwalu ym 1993 gyda gig olaf yn Neuadd Goffa Llanfair-ym-Muallt, gyda chefnogaeth Gorky’s Zygotic Mynci ifanc.
Nawr, dri deg a mwy o flynyddoedd ar ôl y gig olaf hwnnw, bydd stori Ffa Coffi Pawb i’w hadrodd drwy raglen ddogfen arbennig ar S4C. Mae’r rhaglen yn darlledu ar 22 Rhagfyr am 9pm.
Mae’r sioe – a gyfarwyddwyd gan Dylan Goch (Separado/American Interior) – yn cynnwys cyfweliadau sain newydd sbon a darnau o ffilm archif nas gwelwyd o’r blaen.
Swyddfeydd post a bagiau Kwik Save
Roedd Ffa Coffi Pawb yn un o fandiau mwyaf lliwgar ac eithafol Cymru yn eu cyfnod. Er eu bod â chynulleidfa frwd, roedd yn ymddangos bod eu cerddoriaeth wedi llithro rhwng y craciau oherwydd dulliau dosbarthu elfennol, a thranc y casét yn gyffredinol!
Nawr, yn dilyn ail-ryddhau eu trydydd albwm, ac albwm olaf ‘Hei Vidal!’ yn 2023 mae Ffa Coffi Pawb wedi mynd ati i lanhau a thacluso eu dau albwm blaenorol – ‘Dalec Pelion’, sef eu halbwm cyntaf a ryddhawyd yn wreiddiol yn 1988, a ‘Clymhalio’, eu hail LP a ryddhawyd ym 1991.
Wedi’i recordio gan y cynhyrchydd electronig arbrofol Gorwel Owen mewn fflat uwchben Swyddfa Bost yn Rhosneigr a’i ryddhau’n wreiddiol ar gasét gan label Bangor Casetiau Huw, bydd ‘Dalec Pelion’ yn cael ei ryddhau o’r diwedd ar feinyl, yn ogystal ag ar CD a’r llwyfannau digidol am y tro cyntaf.
Mae’r albwm wedi’i ôl-gynhyrchu gan archifydd y Super Furry Animals, Kliph Scurlock, ac mae’n cynnwys gwaith celf newydd sbon gan H Hawkline.
“Yn 86 roedden ni wedi rhyddhau 50 copi o gasét cartref o ganeuon, jamiau a collages sain wedi’u torri i fyny a gafodd eu recordio ar ficroffon peiriant casét a’i werthu mewn ffeiriau recordiau a thafarndai o fag siopa Kwik Save, yna cafodd y band gynnwys y trac ‘Octapws’ ar EP finyl – casgliad gan y mudiad Pop Positif, a ddilynwyd gan gyfarfod gyda’r cynhyrchydd electronig arbrofol Gorwel Owen” meddai y canwr a’r gitarydd Gruff Rhys am y cyfnod hwnnw.
“Yn 1987 gwahoddwyd Ffa Coffi Pawb i recordio yn ei stiwdio gartref ger Ynys Môn. Gwnaethpwyd y recordiadau yma ac acw dros rai misoedd mewn fflat uwchben Swyddfa Bost rhieni Gorwel yn Rhosneigr a datblygodd mewn i’w albwm stiwdio cyntaf, Dalec Peilon – a ryddhawyd ar label casét o Fangor, Casetiau Huw yn 1988.”
Rhestr traciau ‘Dalec Peilon’:
- Mynd I Lawr
- Nyth
- Valium
- Telyn Wedi Trwsio
- V-Yw
- Octapws
- Gwres
- Pendramwngl
- Mae’n Gwneud Fy Mhen i Mewn
- Dalec Peilon
Ar ôl i’r rhaglan ddogfen Ffa Coffi Pawb gael ei ddarlledu ar S4C, bydd modd gwylio eto ar BBC iPlayer ac ar www.s4c.cymru.
Dyma Valium:
Llun: Rolant Dafis