Mae’r band profiadol a phoblogaidd o Ddyffryn Conwy, Melys, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 29 Tachwedd.
‘Santa Cruz’ yw’r sengl gyntaf o albwm newydd Melys, sydd i ddilyn yn fuan yn 2025.
Mae’r sengl yn glanio’n dynn ar sodlau eu halbwm o draciau o sesiynau’r BBC a ryddhawyd ym mis Ebrill 2024 a recordiwyd yn wreiddiol ar gyfer rhaglenni Huw Stephens, Adam Walton a John Peel.
A hwythau yn eu hanterth ar ddiwedd y 1990au a dechrau’r 2000au, ‘Santa Cruz’ yw deunydd newydd cyntaf y band ers iddynt ryddhau’r albwm, ‘Life’s too short’, yn 2005.
“Mae wedi bod mor hir, rydyn ni’n teimlo fel band newydd sbon eto,” meddai Andrea Parker, sef canwr enigmatig y band.
Ysgrifennwyd ‘Santa Cruz’ yn dilyn taith diweddar Andrea a Paul Adams (gitarydd Melys) i California, lle teithiwyd ar hyd y briffordd hanesyddol rhwng San Diego a San Francisco.