Rhyddhau sengl agoriadol albwm newydd Rio 18

Mae prosiect Rio 18 wedi rhyddhau eu sengl  ddiweddaraf sef ‘Casa Loca’ (gwallgofdy).

Rio 18 yw prosiect rhyngwladol y cerddor toreithiog, Carwyn Ellis, ynghyd ag Elan Rhys (Plu, Bendith) a’r offerynnwr taro Baldo Verdú o Venezuela, sydd i’w glywed yn canu ar y sengl hon.

Perfformiodd y tri ohonyn nhw fel triawd am y tro cyntaf yn Tafwyl eleni.

‘Casa Loca’ yw’r trac agoriadol oddi ar albwm newydd Rio 18, ‘Radio Chévere’, fydd yn cael ei ryddhau ar yr 20fed o fis Medi ar Légère Recordings.

Disgrifir y trac fel “slab o salsa psychedelic”, sydd ar unwaith yn cyfuno elfennau o ffync a jazz.

Maen nhw’n dweud fod ‘Casa Loca’ yn eich gwahodd i dŷ simsan lle nad oes unrhywbeth fel ymddengys ar yr olwg gyntaf, tra, ar yr un pryd, yn eich gwahodd i adael eich pryderon wrth y drws ffrynt a dawnsio i ymddiosg y gwallgofrwydd.

Mae’r gwaith celf ar gyfer y sengl gan yr artist o Bogotá, Yodax.

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: