‘O’r Lludw’ – rhyddhau ail albwm Alffa

Wedi cryn edrych ymlaen, mae’r ddeuawd roc o Lanrug, Alffa, wedi rhyddhau eu halbwm newydd. 

O’r Lludw / From Ashes ydy enw’r record hir newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh ac a fydd, yn ôl y label, yn tanio’r sin gerddoriaeth unwaith eto.

Ar ôl cynna’r fflam gyda’u halbwm gyntaf, Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig, yn 2019, cododd sawl her annisgwyl i Alffa gan gynnwys heriau personol a’r pandemig byd-eang, gan fygwth diffodd eu fflamau creadigol. 

Ond wrth godi o’r lludw, mae’r band yn ôl yn gryfach nag erioed, gan sianelu eu hegni newydd i greu albwm amrwd, gonest a phwerus.

Wedi cydweithio â’r cynhyrchydd, Gethin Pearson, mae sain nodweddiadol Alffa wedi’i chwyddo ar eu hail albwm, gan gyfuno elfennau o Shame, Crows, SOFT PLAY, a Queens of the Stone Age i greu cawl o ddylanwadau pync-roc caled.

“Roedden ni wir eisiau i’r gwrandawyr wybod bod yna obaith,” meddai Alffa, sef Dion Jones a Siôn Eifion Land, am yr albwm. 

“Roedden ni’n teimlo bod y rhan fwyaf o ganeuon pync/roc yn eithaf negyddol, felly roedd angen rhai mwy solad a chadarnhaol. 

“Mae’r albwm yn dechrau yn y dyddiau tywyll ac yn mynd ymlaen i’r gobaith rydyn ni’n ei deimlo heddiw, felly os gall y gwrandäwr dynnu unrhyw beth positif i ffwrdd – dyna’r nod.”

Dyma ‘Darnau Mân’ o’r casgliad: