Mae GAFF, sef prosiect diweddaraf y cerddor profiadol Alun Gaffey, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 22 Tachwedd.
‘Chefchaouen’ ydy enw’r trac diweddaraf gan GAFF sydd allan ar label Recordiau Côsh.
“Chefchaouen yw’r ‘ddinas las’ enwog sy’n swatio ym mynyddoedd y Rif yng ngogledd Moroco – lle gwirioneddol anhygoel” meddai Alun Gaffey.
“Mae’r gân yma am yr ysfa i deithio a gweld y byd… cyn iddo losgi’n lludw!”
Mae’r sengl yn damaid pellach i aros pryd gan GAFF nes rhyddhau ei albwm newydd, ‘Escapism’, allan ar 6 Rhagfyr.
Daw’r trac fel dilyniant i’r sengl ‘If You Know, You Know’ a ryddhawyd yn mis Hydref.
“Heb os, mae ’na linyn cyswllt pendant i’r rhan helaeth o’r caneuon ar yr albym ’ma, sef hiraeth am symbyliad deallusol, am brofiad, am ddihangfa” meddai’r cerddor.
“Darllen llyfrau, gwerthfawrogi darn o gelfyddyd fel ffilm, gwrando ar gerddoriaeth, siarad am gerddoriaeth ac, wrth gwrs: creu cerddoriaeth. Mae’r mathau hyn o weithgareddau fel cyffur i mi. A dweud y gwir maen nhw’n debycach i ddŵr neu ocsigen. Weithiau mae amgylchiadau’n gallu fy amddifadu i o’r ocsigen hwnnw.
“Dwi ’di bod mewn ambell i brosiect cerddorol dros y blynyddoedd, ond yn ystod y pandemig Covid-19 o’n i’n ysu i fynd yn ôl i’r stiwdio” ychwanega Alun.
“Wrth i normalrwydd cymharol ddychwelyd, es i’n ôl yno – rhywle lle dwi’n wirioneddol hapus. Lateral flow tests, hunan-ynysu, ymbellhau cymdeithasol – termau sydd bellach wedi diflannu o’r eirfa gyffredin mor sydyn â daethon nhw yn y lle cynta’. Ond dyna oedd yr ystyriaethau wrth i mi gychwyn recordio’r LP yma. Mae ’di cymryd amser hir i’w recordio a’i rhyddhau. Mae bywyd yn gallu bod yn rhwystr weithiau, ac mae modd clywed y rhwystredigaeth yna yn y caneuon.”
Mae ’na fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl nefyd, wedi’i gyfarwyddo gan Nic Finch.