Mae’r ddeuawd Hap a Damwain wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Adeiladu’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp arbrofol, a dyma’u seithfed sengl o’r flwyddyn – maent wedi rhyddhau rhain yn fisol ers i ‘Poen yn y Baltics’ lanio ym mis Ionawr 2024.
Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf).
Mae Hap a Damwain yn gyfarwydd am eu parodrwydd i brocio gyda’u caneuon, ac mae ‘Adeiladu’ yn sicr yn drac arall sy’n gwneud hynny.
Dyma gân sy’n gofyn y cwestiwn, ‘beth am ddelio â’r argyfwng digartrefedd drwy adeiladu tai’ yn ôl y band.
Mae ‘Adeiladu’ ynghyd â’r holl senglau blaenorol, ac safle Bandcamp Hap a Damwain.