Clwb Ifor Bach yn trefnu llwyfan ‘Settlement’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Clwb Ifor Bach fydd yn curadu llwyfan ‘Settlement’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, ac mae’r ganolfan amlwg yng Nghaerdydd wedi bod yn trafod eu balchder o gael y cyfle i wneud hynny. “Ni’n hapus iawn i gyhoeddi mae ni fydd yn curadu Llwyfan y Settlers eleni yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd” meddai cyhoeddiad gan Clwb Ifor. “Ar ddiwedd mis Awst, bob blwyddyn, mae swyddfa Clwb Ifor Bach yn gwaghau, ac mae pawb yn ymlwybro draw tuag at Crughywel yng nghysgod y Mynyddoedd Du ar gyfer ein hoff ŵyl. “Mae tocyn Settlers yn rhoi’r cyfle i chi ddarganfod lleoliad yr ŵyl arbennig yma, cyn i’r holl beth ddechrau ar y penwythnos.