Mae Bitw, sef prosiect unigol y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel, wedi rhyddhau casgliad newydd o ganeuon hen.
‘Prehearse’ ydy enw’r albwm 17 trac sydd, yn ôl y cerddor, yn gasgliad o demos, syniadau a sgetsys o ganeuon a arweiniodd yn y pendraw at ei albwm diweddaraf, ‘Rehearse’.
Rhyddhawyd ‘Rehearse’ ym mis Rhagfyr 2023.
Yn ogystal a bod ar gael yn ddigidol ar ei safle Bandcamp, mae’r albwm newydd hefyd ar gael ar ffurf casét nifer cyfyngedig.