Sengl samba Ci Gofod 

Mae Ci Gofod wedi rhyddhau ei sengl newydd sydd wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth samba. 

Ci Gofod ydy’r prosiect ffync-bop o Benybont, sy’n cael ei arwain gan y cerddor Jack Thomas Davies. 

‘Hydref’ ydy enw’r sengl Gymraeg ddiweddaraf i lanio ganddo ac sy’n parhau i arddangos amrywiaeth cerddorol y prosiect. 

Mae Jack wedi’i ysbrydoli gan recordiau ffync 80au ei dad, ac mae’n dwyn dylanwad hefyd gan grwpiau fel Super Furry Animals a Sly and the Family Stone.

Ymddangosodd Ci Gofod gyntaf gyda’r sengl Saesneg ‘Castle Square’ yn 2020 ac mae wedi cyhoeddi cyfres o senglau ers hynny gan gynnwys ‘Lose the Pressure’ a’r traciau Cymraeg ‘Dyfodol’, ‘Araf Araf Araf’ a ‘Rhedeg yn y Nos’. 

Bu iddo hefyd ryddhau EP enw ‘Wedi Codi’ yng Ngorffennaf 2023 oedd yn cynnwys pump o draciau Cymraeg. 

“Mi wnes i ysgrifennu hon pan oedd gen i writers block enfawr” meddai Jack am ‘Hydref’. 

“Felly nes i wrando ar bach o gerddoriaeth samba a ffeindio ysbrydoliaeth newydd. Fe arweiniodd at gân samba iaith Gymraeg!